Rheolwr Bwyd a Diod job with Wales Millennium Centre in Millennium Centre, Cardiff, Wales, UK | Leisure Opportunities
Leaderboard
Leisure Opportunities
Job search
Job Search
see all jobs
More jobs with Wales Millennium Centre
Wales Millennium Centre
£40,000 - £45,000
Millennium Centre, Cardiff, Wales, UK
Careers with Wales Millennium Centre
apply now
Uchelgais Canolfan Mileniwm Cymru yw creu ysbrydoliaeth i Gymru, creu argraff ar y byd – dymunwn i’n holl brofiadau fod o safon ryngwladol ragorol. Mae darpariaeth bwyd a diod yn rhan annatod o’r profiad i ni. Mae’n gyfle i ni arddangos ein gwaith arloesol a defnyddio'r cynnyrch gorau sydd gan Gymru i’w chynnig. Boed yn baned o dê neu goffi, yn bryd cyn y sioe neu ddiod amser egwyl – hoffwn i bob un profiad fod o’r radd flaenaf.

Ydych chi’n angerddol yngl?n â chreu profiadau bwyd a diod anhygoel mewn awyrgylch creadigol a diwylliannol?

Ydych chi’n arweinydd sy’n ysgogi balchder, brwdfrydedd a rhagoriaeth yn eich tîm?

Ydych chi’n unigolyn byddai’n llwyddo gan wybod eich bod chi a’r tîm yn gwneud cyfraniad hanfodol tuag at greu profiadau ysbrydoledig sy’n newid bywydau ac ehangu gorwelion yng nghanolfan gelfyddydau cenedlaethol Cymru?

Rydyn ni’n chwilio am unigolyn deinamig i arwain ein tîm talentog bwyd a diod. Byddwch yn ymdrechu i wneud yr elw mwyaf posib wrth gyrraedd safonau rhagorol sy’n adlewyrchu gwaith creadigol ac ysbrydoledig y Ganolfan ar bob adeg.

Bydd cyfrifoldeb arnoch chi i ddatblygu cynlluniau cynaliadwy i sicrhau twf yn ein busnes bwyd a diod, recriwtio a chadw talent ag arbenigedd profiad cwsmer a chydweithio ar draws y Ganolfan i feithrin gwelliant ac arloesedd ar draws ein hunedau bwyd a diod.

Os mai dyma'r swydd i chi – hoffwn ni glywed gennych.

Ymgeisiwch wrth ddanfon eich CV a llythyr cais yn disgrifio’ch sgiliau gan amlygu eich addasrwydd ar gyfer y swydd.

Croesawn geisiadau yn Gymraeg neu’n Saesneg. Ni fydd cais yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais yn Saesneg.
Apply for this job
Already have an account? Sign in
Your details

Enter a password – or sign in – if you would like to keep track of your applications

Upload your CV

Write a covering letter
You will have the opportunity to review your application on the following page
Leaderboard
Leaderboard
Active IQ
Active IQ